27 Mawrth 2018

 

Annwyl pawb,

Ymgynghoriad: Adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau

Yn ei gyfarfod ar 15 Mawrth, trafododd y Bwrdd Taliadau y dystiolaeth a oedd wedi dod i law hyd yma yn ystod ei adolygiad o’r cymorth staffio i’r Aelodau. Trafododd y Bwrdd pa faterion a allai fod angen ystyriaeth bellach a pha faterion y gellid mynd i'r afael â hwy yn gynt ac o ganlyniad mae wedi penderfynu ymgynghori ar rai materion ar unwaith ac mae’n gwahodd ymatebion erbyn 11 Mai. Mae’r isod yn darparu trosolwg o drafodaethau’r Bwrdd a’r camau nesaf.

Cyflwyniad

Mae'r dystiolaeth a gasglwyd o adolygiad y Bwrdd hyd yma, sy'n cynnwys adborth gan yr Aelodau a'r staff cymorth, yn ogystal ag adolygiad blaenorol y Bwrdd ar effeithiolrwydd y Penderfyniad, yn nodi bod cefnogaeth i gyflwyno mwy o hyblygrwydd i'r darpariaethau lwfans staffio a geir yn y Penderfyniad. Roedd yr adborth hwn yn cynnwys cyflwyno mwy o hyblygrwydd i'r Penderfyniad fynd i'r afael â phwysau llwyth gwaith o fewn swyddfeydd yr Aelodau, y dewis i wario lwfansau ar staffio yn hytrach na threuliau eraill megis costau swyddfeydd a bod y strwythurau staffio presennol yn gyfyngedig. Ar ôl ystyried y safbwyntiau a ddaeth i law, mae'r Bwrdd yn ystyried a ddylid gweithredu'r newidiadau a ganlyn er mwyn gwella hyblygrwydd i'r Aelodau wrth ddefnyddio gwahanol elfennau o'r Penderfyniad. Bwriad y cynigion hyn yw cael yr effaith o gynyddu’r defnydd hyblyg o’r lwfansau presennol heb eu cynyddu.

Cyllidebu'r Lwfans Staffio ar y pwyntiau cyflog gwirioneddol

Trafododd y Bwrdd y mater o gyfrifo'r Lwfans Staffio ar y pwyntiau cyflog gwirioneddol yn hytrach na'r uchafswm costau posibl fel yw'r arfer bresennol.

Ar hyn o bryd, cyfrifir costau staffio ar yr "Uchafswm Costau Posibl" fel yr amlinellir yn adran 7.2 y Penderfyniad. Y gwahaniaeth rhwng yr uchafswm costau a'r Lwfans Staffio yw'r "Balans sy'n Weddill". Y Balans hwn sydd ar gael i'r Aelodau dalu am gostau staffio eraill megis staff a gyflogir ar gontractau tymor sefydlog, lleoliadau gwaith ac interniaid, costau teithio staff a goramser. Ni ellir ei ddefnyddio i gyflogi staff parhaol.

Yn dilyn yr adborth a gafwyd yn galw am fwy o hyblygrwydd o fewn y system ac i fynd i'r afael â phwyntiau pwysau, mae'r Bwrdd yn bwriadu caniatáu i'r balans sy'n weddill o'r Lwfans Staffio i Aelod gael ei gyfrifo ar sail costau gwirioneddol yn hytrach nag uchafswm costau posibl. Gan fod y Balans sy'n Weddill yn gallu newid yn ystod y flwyddyn wrth i staff adael, ymuno ac yr eir i gostau eraill, ni fydd unrhyw newid i'r darpariaethau ynghylch sut y gellir defnyddio'r balans hwn.

Ochr yn ochr â'r cynnig hwn mae'r Bwrdd hefyd yn bwriadu cyhoeddi'r gwariant y mae pob Aelod unigol yn ei wneud ar ei Lwfans Staffio. Byddai hwn yn gyhoeddiad blynyddol o gyfanswm gwariant yr Aelod yn ystod blwyddyn ariannol ar staffio.

Dileu'r terfyn uchaf o 111 o oriau ar staff cymorth a gyflogir yn barhaol

Trafododd y Bwrdd y mater o ran y terfyn uchaf o 111 o oriau ar staff cymorth a gyflogir yn barhaol a p'un a yw'n briodol o hyd. Trafododd yr adborth a gafodd a oedd yn ffafrio cael gwared ar y terfyn uchaf. Dangosodd arolwg y Bwrdd ar effeithiolrwydd y Penderfyniad y llynedd fod dros hanner yr Aelodau a'r staff cymorth a ymatebodd i'r arolwg yn nodi'r terfyn uchaf ar gyflogaeth naill ai'n wael neu'n wael iawn. Roedd peth cefnogaeth hefyd i gael gwared ar y terfyn uchaf gan yr Aelodau a'r staff cymorth yn ystod y cyfweliadau a'r arolygon a gynhaliwyd fel rhan o'r adolygiad o gymorth staffio i'r Aelodau.

Mae paragraff 7.1.2 o'r Penderfyniad yn nodi “caiff Aelodau hawlio lwfans i dalu costau cyflog hyd at dri o staff cyfwerth ag amser llawn” hyd at derfyn uchaf o 111 o oriau.

Mae'r Bwrdd yn cynnig dileu'r terfyn uchaf o 111 o oriau ar staff a gyflogir yn barhaol. O ganlyniad i hyn, byddai swm yr oriau a band unrhyw staff ychwanegol y gall Aelod fod am eu cyflogi ddibynnu ar y balans sy'n weddill o'u Lwfans Staffio ar ôl cyfrif am yr holl godiadau cyflog blynyddol cytundebol. 

Trosglwyddo rhwng cyllidebau

Trafododd y Bwrdd yr adborth a gasglwyd yn ystod yr adolygiad hwn a'i adolygiad o effeithiolrwydd y Penderfyniad, a nododd y ddau ffafriaeth tuag at fwy o hyblygrwydd rhwng y lwfansau.

Mae Adran 7.5 o Benderfyniad y Bwrdd yn caniatáu i Aelod drosglwyddo hyd at 25 y cant o'i Lwfans Staffio i'w Lwfans Costau Swyddfa. At hynny, gall yr Aelodau dynnu arian ar gyfer eu Lwfans Costau Swyddfa o flynyddoedd ariannol yn y dyfodol, er nad ydynt yn gallu cario arian ymlaen i flwyddyn ariannol yn y dyfodol.

Mae'r Bwrdd yn cynnig caniatáu i'r Aelodau drosglwyddo hyd at 25 y cant o'u Lwfans Costau Swyddfa i'w Lwfans Staffio. Hefyd, mae'r Bwrdd yn cynnig caniatáu i'r Aelodau drosglwyddo'r arian sydd ar gael iddynt drwy'r Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu i'w Lwfans Staffio (hyd at gyfanswm o £2,500). Mae'r newidiadau hyn yn ychwanegol at y darpariaethau sydd eisoes yn bodoli.

Ystyriaethau o ran cydraddoldeb

Yn ychwanegol at y cynigion a amlinellir uchod, hoffai'r Bwrdd geisio eich barn ynghylch a allai unrhyw un o'r materion a nodir uchod gael effaith, neu effaith bosibl, ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig fel y'u diffinnir o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010?

Materion eraill

Bydd mwy o hyblygrwydd yn golygu bod y swm sydd ar gael yn lwfans staffio'r Aelodau yn amrywio yn ystod y flwyddyn, yn dibynnu ar ble mae eu staff ar eu pwyntiau cyflog unigol. Yr Aelodau fydd yn gyfrifol am reoli'r anwadalrwydd hwn.

Gall gwariant cynyddol o dan lwfans staffio unigol Aelod hefyd arwain at lai o arian ar gael i drosglwyddo i lwfansau eraill.

Efallai yr hoffai’r Aelodau nodi bod y cynigion a amlinellir uchod yn gymwys i lwfansau unigol Aelodau ac nid y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol. Bydd y Bwrdd yn ystyried goblygiadau’r cynigion hyn ar y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol yn ei gyfarfod ym mis Mai.

Mae'r Bwrdd yn ymwybodol bod y Pwyllgor Cyllid wrthi'n cynnal ymchwiliad i sut y mae Comisiwn y Cynulliad yn rhagweld ei gyllideb ar gyfer Penderfyniadau'r Bwrdd Taliadau a'r mater cysylltiedig o ran tanwariant. Byddai'r newidiadau a ddisgrifir yn yr ymgynghoriad hwn, os cânt eu gweithredu, yn debygol o effeithio ar y tanwariant ar y Penderfyniad ac, felly, yr arian sydd ar gael i Gomisiwn y Cynulliad. Felly, mae'r Bwrdd yn bwriadu ymgysylltu â'r Comisiwn yn uniongyrchol fel ei bod yn mabwysiadu dull cydlynol o gyllidebu yn gyffredinol ac yn darparu gwasanaethau a chymorth ariannol i'r Aelodau.

Darparu tystiolaeth ysgrifenedig

Byddai’r Bwrdd yn croesawu eich barn ar ei gynigion. Cofiwch anfon unrhyw ymatebion i’r cynigion uchod erbyn 11 Mai 2018 i lywio trafodaethau’r Bwrdd yn ei gyfarfod nesaf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r adolygiad neu’r ymgynghoriad, cysylltwch â’r ysgrifenyddiaeth. Cofiwch sicrhau eich bod wedi ystyried sut y bydd y Bwrdd yn defnyddio’r wybodaeth, a nodir yn yr Atodiad i’r llythyr hwn, cyn cyflwyno eich ymateb.

Caiff y llythyr hwn ei gyhoeddi ar ein gwefan hefyd, yn ôl ein harfer.

Cofion gorau

Y Fonesig Dawn Primarolo

Cadeirydd y Bwrdd Taliadau

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu'n Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.


 

Atodiad A: Sut y byddwn yn trin eich gwybodaeth

Pwy ydym ni

Y Bwrdd Taliadau yw rheolydd data y wybodaeth yr ydych yn ei darparu, a bydd yn sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei diogelu a'i defnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Pam rydym yn casglu'r wybodaeth hon

Bydd eich sylwadau’n cael eu defnyddio i lywio adolygiad y Bwrdd Taliadau o’r cymorth staffio i’r Aelodau.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud â'ch gwybodaeth

Bydd aelodau’r Bwrdd Taliadau ac ysgrifenyddiaeth y Bwrdd (cyflogeion Comisiwn y Cynulliad) sy'n rhan o'r ymgynghoriad yn gweld y sylwadau ar eu hyd.

Caiff eich gwybodaeth ei storio ar rwydwaith TGCh Comisiwn y Cynulliad (sy’n cynnwys gwasanaethau cwmwl trydydd parti a ddarperir gan Microsoft). Caiff unrhyw achos o drosglwyddo data gan Microsoft y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd ei gwmpasu gan gymalau contract lle mae’n rhaid i Microsoft sicrhau bod data personol yn cael eu trin yn unol â deddfwriaeth Ewrop.

Cyhoeddi sylwadau

Mae’n bosibl y bydd y Bwrdd Taliadau yn cyhoeddi eich ymateb i'r ymgynghoriad hwn, yn rhannol neu'n gyflawn, ar wefan y Bwrdd. Efallai y bydd hefyd yn cyhoeddi rhannau o'ch sylwadau mewn dogfennau a gaiff eu llunio ar ôl yr ymgynghoriad ac a gyhoeddir ar wefan y Bwrdd. Bydd unrhyw ymatebion sy’n cael eu cyhoeddi ar wefan y Bwrdd yn parhau i fod ar gael i’r cyhoedd.

Rhowch wybod os byddai'n well gennych inni beidio â chyhoeddi eich sylwadau na dyfynnu ohonynt.

Os bydd y Bwrdd yn cyhoeddi sylwadau a anfonwyd gennych ar ran sefydliad, bydd yn cynnwys eich enw, teitl eich swydd, ac enw’r sefydliad gyda’ch sylwadau. Os bydd yn cyhoeddi sylwadau a anfonwyd gennych chi’n bersonol, ni fydd yn datgelu eich enw dim ond os gwnaethoch ofyn inni wneud hynny.

Pa mor hir y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Caiff yr ymatebion eu cadw hyd nes y bydd y Bwrdd Taliadau wedi gorffen yr ymgynghoriad ac unrhyw waith dilynol yn y meysydd a amlinellir yn y ddogfen hon. Rhagwelir y bydd hyn ym mis Mai 2020, gan fod y Bwrdd wedi ymrwymo i gyhoeddi ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad flwyddyn cyn yr etholiad cyffredinol yng Nghymru yn 2021.

Cysylltu â chi

Efallai y bydd y Bwrdd yn defnyddio'r manylion cyswllt a gawsom gennych i gysylltu â chi mewn perthynas â'r ymgynghoriad hwn a'ch sylwadau, ac unrhyw waith ychwanegol a wneir fel rhan o’r adolygiad hwn. Rhowch wybod wrth i chi ymateb i'r ymgynghoriad a ydych am inni gadw eich manylion cyswllt a chysylltu â chi at y dibenion hyn. Os penderfynwch adael inni gysylltu ymhellach â chi, fe allwch ddewis dynnu'ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi gwybod i ni.

Ceisiadau i Gomisiwn y Cynulliad am wybodaeth

Os gwneir cais am wybodaeth o dan y ddeddfwriaeth hawl i wybodaeth, efallai y bydd yn rhaid datgelu'r wybodaeth a ddarparwyd gennych neu ran ohoni. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Bwrdd Taliadau at ddibenion cyhoeddi. Dim ond os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith y bydd y Bwrdd yn gwneud hynny.

Eich hawliau

Caiff eich data personol eu prosesu ar gyfer perfformio tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd gan y Bwrdd Taliadau.

Os hoffech:

·         weithredu unrhyw un o’r hawliau sydd gennych o dan ddeddfwriaeth (megis yr hawl i wneud cais am eich data eich hun);

·         ofyn cwestiwn; neu

·         wneud cwyn ynghylch sut y defnyddiwyd eich data;

cysylltwch â’r ysgrifenyddiaeth (taliadau@cynulliad.cymru).

Gallwch hefyd wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych o’r farn nad ydym wedi defnyddio eich data yn unol â’r gyfraith. Mae manylion cyswllt y Swyddfa ar gael ar ei gwefan – www.ico.org.uk.

Er gwybodaeth, ni ellir gweithredu rhai o’r hawliau hyn hyd nes y bydd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yn gymwys yn y DU ar 25 Mai 2018.